Rhoi cyfle i鈥檙 gymuned glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i Ganser a Gofal Lliniarol
Mae darlith yn canolbwyntio ar Ganser a Gofal Lliniarol, i鈥檞 chynnal yn Venue Cymru am 6pm ar 15 Tachwedd. Mae鈥檙 gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i鈥檙 cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a thystysgrif bresenoldeb.
Bydd yr Athro Nick Stuart, Oncolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Athro Astudiaethau Canser ym Mhrifysgol 黑料不打烊, a Mr Andy Fowell sydd yn Ymgynghorydd MacMillan yn Ysbyty Gwynedd, yn traddodi dau gyflwyniad byr yn ystod y noson. Byddant yn trafod gofal am y claf 芒 chanser yn y 21ain ganrif, a cheir cyfle i ofyn cwestiynau i鈥檙 cyflwynwyr a chael ymateb.
Hon yw鈥檙 ail ddarlith yn yr Ail Gyfres o Ddarlithoedd ar Iechyd a Lles, a gynhelir tan fis Mai 2012. Mae鈥檙 darlithwyr yn cyflwyno ymchwil flaengar ar bynciau ym meysydd iechyd a lles, a hynny trwy ddull cyfeillgar a hygyrch. Trefnir hwy gan Ganolfan Sgiliau Aber-黑料不打烊, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a 黑料不打烊, a chyda chefnogaeth Coleg Llandrillo Cymru a鈥檙 Asiantaeth Genedlaethol dros Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH).
Er bod y digwyddiadau am ddim, mae cofrestru鈥檔 hanfodol er mwyn archebu eich lle. Cofrestrwch trwy gysylltu 芒 Chanolfan Sgiliau Aber-黑料不打烊 ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 01248 365918 neu absc@bangor.ac.uk neu, am fwy o wybodaeth am y gyfres o ddarlithoedd a Chanolfan Sgiliau Aber-黑料不打烊, ewch i鈥檙 wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2011