Seicolegwyr yn cyfrannu at fwynhad arddangosfa newydd
Mae Ysgol Seicoleg enwog Prifysgol 黑料不打烊 wedi bod yn cydweithio efo oriel gelf cyfoes MOSTYN yn Stryd Vaughan, Llandudno ar eu harddangosfa newydd, sydd i鈥檞 lansio yn fuan. Mae鈥檙 Arddangosfa, 'TI' i gyd am y gwyliwr.
Yn dod 芒 gweithiau ynghyd gan bum artist byd-enwog - Felix Gonzalez-Torres, Aur茅lien Froment, Jeppe Hein, J煤lius Koller a Rivane Neuenschwander - bydd yr arddangosfa yn gofyn i ymwelwyr ymwneud 芒鈥檙 gwaith mewn ffyrdd uniongyrchol sydd ddim yn rhan o鈥檙 profiad cyffredin wrth ymweld ag oriel.
Mae pob darn o waith yn gwahodd ymwelwyr i鈥檙 oriel i ryngweithio yn y fath fodd fel eu bod nhw yn cwblhau'r gwaith celf ac yn rhan o nod yr oriel i herio confensiwn y berthynas rhwng yr oriel a'r gynulleidfa. Bydd y gweithiau yn yr arddangosfa yn cael eu trawsnewid a鈥檜 hailweithio鈥檔 gyson gan weithredoedd yr ymwelydd. Mae chwarae, creadigrwydd, datrys problemau a safbwyntiau newydd yn creu arddangosfa fydd yn herio a diddori pob oed.
A dyna lle mae鈥檙 Ysgol Seicoleg wedi bod o gymorth. Yn ychwanegol at y gwaith celf bydd arddangosfa ac eitemau gan yr Ysgol yn cynnwys arteffactau diwylliannol, dogfennau ac eitemau eraill sy鈥檔 dangos y cysylltiad rhwng gwrthrychau a'n gwybyddiaeth.
Dywedodd yr Athro Guillaume Thierry o Brifysgol 黑料不打烊:
"Mae'r arddangosfa ym MOSTYN yn torri tir newydd. Mae pobl yn aml yn ystyried y profiad o gelf fel un goddefol ond mae hyn yn anghywir, wrth fod ein hymennydd yn dehongli'r byd, drwy'r amser. Mae ein meddwl yn adeiladu realiti a鈥檙 profiad o harddwch. Mae鈥檙 arddangosfa TI yn gwneud hwn yn gyswllt pendant.鈥
Mae gwahoddiad i鈥檙 cyhoedd i鈥檙 Noson Agoriadol sydd nos Wener 26 Ebrill am 6.30 yn Oriel Mostyn, Llandudno.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013