Taith Hanes Hudolus
Dewch am 'Daith Hanes Hudolus' yn Ynys M么n yng nghwmni haneswyr o Brifysgol 黑料不打烊 ddydd Sul 7 Gorffennaf.
Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol 黑料不打烊 yn arwain taith wedi ei thywys trwy dirwedd hanesyddol yr Ynys. Dyma gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth yr hanes sydd i'w gael dafliad carreg o'r brifysgol. Bydd y daith yn mynd 芒 chi i amryw o safleoedd, o feddrodau Neolithig i dai crwn Brythonig-Rufeinig a myntiau canoloesol.
Mae'r teithiau'n rhad ac am ddim ac yn cael eu harwain gan aelodau o staff yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas. Mae croeso i bawb - os ydych yn ystyried astudio ym Mangor, neu ddim ond yn awyddus i ddysgu mwy am hanes Gogledd Cymru.
Cofrestrwch yn /history-philosophy-and-social-sciences/history-tour.php.cy neu cysylltwch 芒 k.pollock@bangor.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Dywedodd Karen Pollock, un o drefnwyr y daith, sy'n Ddarlithydd mewn Archaeoleg yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas:
鈥淢ae i Ynys M么n orffennol unigryw a diddorol. Yn y dirwedd mae olion ei hanes rhyfeddol i'w gweld, o'r dyn cynhanesyddol a'r Llychlynwyr i dywysogion Cymru yn y canol oesoedd. Rydym yn falch iawn o allu cynnig teithiau maes i dynnu sylw at hanes mor gyfoethog ac amrywiol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019