Ein Lleoliad a Chwestiynau Cyffredin am Ymweld â Ni
Rhannwch y dudalen hon
Cwestiynau Cyffredin am Ymweld â Gardd Fotaneg Treborth
Opening times
Amseroedd agor y Gerddi:
Ar agor yn ystod oriau golau dydd
Amseroedd agor y Tai Gwydr:
Dydd Mercher, 10.00–16.00
Dydd Gwener, 10.00–16.00
Pan fydd digwyddiad yn cael ei gynnal (e.e. gwerthiant planhigion neu arddangosfa)
Dylid cael caniatâd gan aelod o staff neu wirfoddolwr cyn mynd i mewn i'r tŷ gwydr, a dylid talu sylw i unrhyw gyfyngiadau mynediad (e.e. os yw'r llwybrau'n llithrig neu os oes angen cau tŷ gwydr am resymau diogelwch).
Mae ymwelwyr yn mynd i unrhyw ran o'r ardd neu'r tai gwydr ar eu menter eu hunain.
Lle dylwn i barcio?
Os oes lle, gellir parcio ceir y tu allan i'r swyddfeydd. Fodd bynnag, os yw'r ardal hon yn llawn, neu os oes digwyddiad yn cael ei gynnal, mae lle parcio ychwanegol y tu hwnt i'r Ardd ger y Trac Athletau.
Ydi'r gerddi a'r tai gwydr yn hygyrch
Mae llawer o rannau o’r Ardd Allanol yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn pan fo’r glaswellt yn sych (gofynnwch i’r staff am gyngor). Mae’r llwybr drwy’r goedwig yn addas i gadeiriau olwyn. Mae mynediad cyfyngedig i’r tai gwydr i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Nid yw’r toiled wedi’i gyfarparu’n llawn ag offer i ddefnyddwyr anabl, ond mae ganddo reilen law ac mae’n ddigon mawr i ofalwr gynorthwyo person anabl.
Ydi cŵn yn cael dod i'r Ardd?
Mae cerddwyr cŵn ymhlith ymwelwyr a chefnogwyr pwysicaf Treborth; fodd bynnag, gall cŵn achosi problemau i weithrediad llwyddiannus yr Ardd drwy niweidio sbesimenau yn y gwelyau, tarfu ar fywyd gwyllt (e.e. gwiwerod coch yn y goedwig), ac achosi risgiau iechyd oherwydd baw cŵn.
Gofynnwn i bob ci gael ei gadw ar dennyn byr, sefydlog ym mhob rhan o’r ardd a’r goedwig, ac i faw cŵn gael ei gasglu a’i roi yn y biniau a ddarperir.
Gardd Fotaneg Treborth, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, Gwynedd LL57 2RQ
Cysylltu â Ni
Gardd Fotaneg Treborth, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, Gwynedd LL57 2RQ