ºÚÁϲ»´òìÈ

Fy ngwlad:

Gerddi, Coetir a Thai Gwydr

GERDDI A CHOETIR

Dolydd Blodau Gwyllt

Mae gan ddolydd fel rhai Treborth amrywiaeth heb ei hail o blanhigion ac mae’n cynnal amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt gan gynnwys ffyngau, gwenyn, pryfed, chwilod, pryfed cop, gwyfynod, gloÿnnod byw, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach, ystlumod ac adar. Maent hefyd yn rhan gynhenid o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru - mae iddynt gyfoeth o ran cymeriad y dirwedd, ffermio, llên gwerin a hanes.


 

Mae plotiau’r dolydd yng Ngardd Fotaneg Treborth ymhlith ei hardaloedd mwyaf bioamrywiol, yn gartref i dros 150 o rywogaethau o blanhigion cynhenid ynghyd â channoedd o rywogaethau o ffyngau ac infertebratau. Mae'r glaswelltiroedd heb eu gwella hyn yn cynrychioli un o'r cynefinoedd prinnaf a mwyaf bregus yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl yr elusen gadwraeth Plantlife, cafodd chwe miliwn erw o laswelltir y Deyrnas Unedig ei aredig ar gyfer cnydau grawnfwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ers hynny, rydym wedi colli 97% o ddolydd traddodiadol. Heddiw, mae llai nag 1% o arwynebedd tir y Deyrnas Unedig yn laswelltir (Plantlife, 2019).
Mae'r cynefin rhyfeddol hwn yn gynnyrch o 6,000 o flynyddoedd o ryngweithio rhwng pobl a'r tir. Nid yn unig y mae arferion amaethyddol traddodiadol megis torri gwair a phori da byw wedi creu cymunedau o blanhigion amrywiol, ond maent hefyd yn rhan annatod o'n hanes diwylliannol.

Mae dolydd sy’n frith o rywogaethau yn gwneud mwy na chefnogi blodau gwyllt yn unig. Maent yn darparu ecosystemau hanfodol i infertebratau a mamaliaid bach, ac yn darparu gwasanaethau hanfodol megis cipio a storio carbon, atal llifogydd trwy ddargadwad dŵr, a darparu cynefinoedd i beillwyr sy'n fuddiol i amaethyddiaeth (Plantlife, 2019).

Bob blwyddyn rhwng mis Mehefin a mis Medi, rydym yn torri ac yn cribinio'r plotiau dolydd i gyd-fynd â'r cyfnod naturiol o ollwng hadau. Ar ôl torri'r dolydd gyda thorrwr brws y gellir ei wthio ymlaen a thorrwr wedi'i osod ar dractor, gadewir y deunydd wedi'i dorri yn ei le am ychydig ddyddiau i ganiatáu i'r hadau ollwng.

Mae cael gwared ar y toriadau mewn ffordd amserol yn hanfodol i efelychu rheolaeth draddodiadol o weirgloddiau. Mae'r broses hon yn cynnal ffrwythlondeb isel y pridd, sy'n helpu i atal glaswelltau amlwg ac yn caniatáu i rywogaethau blodau gwyllt llai cystadleuol ffynnu. Er ein bod wedi mireinio ein dulliau dros y blynyddoedd, mae hon yn parhau i fod yn dasg lafur-ddwys sy'n gofyn am sawl person dros sawl wythnos.

Un datblygiad diweddar pwysig yn ein dull rheoli fu cyfranogiad contractwyr cefn gwlad lleol, sy'n defnyddio tractorau i dorri a chael gwared ar lystyfiant o'r plotiau dolydd mwy ar ochr ddwyreiniol yr Ardd. Caiff y deunydd a gynaeafir ei gludo i safleoedd lleol, gan gynnwys Castell Penrhyn ac ar hyd priffyrdd yr A55, i helpu i sefydlu dolydd newydd gyda hadau o ffynonellau lleol.

Fel rhan o’n strategaeth glaswelltir a dolydd, rydym wedi croesawu praidd bach o ddefaid Manx Loaghtan i’r Ardd Fotaneg, sef brid prin sy’n gynhenid i Ynys Manaw. Daethpwyd â’r defaid i mewn i bori am gyfnod byr tan fis Chwefror. Bydd hyn yn creu nifer o fanteision: cael gwared ar y gwellt marw oddi ar wyneb y pridd (sy’n rhwystro hadau rhag egino). Rydym yn gwneud hyn yn ystod yr hydref, sy’n gyfnod pwysig i hadau egino, gan y bydd cadw rheolaeth ar y glaswellt sy’n ail-dyfu yn dilyn torri’r gwair, a bydd yn rhoi egni newydd i’r dolydd trwy greu pridd moel a phorfa anwastad. Bydd hefyd o gymorth i gynnal y lefelau ffrwythlondeb mewn modd naturiol, gan wella’r cnwd gwair ac felly gwerth y glaswelltir.

Mae'r dull hwn wedi gofyn am rai adnoddau ychwanegol (ffensio, pobl i wirio stoc yn rheolaidd, darparu dŵr) ond mae'r manteision (ar gyfer bioamrywiaeth ac addysgu ac ymgysylltu ag ymwelwyr) yn llawer mwy nag unrhyw gostau cysylltiedig. Mae pori yn hollbwysig ar gyfer cynnal dolydd da; fel y dywed yr hen ddywediad, ‘mae dolydd yn gwneud da byw a da byw yn gwneud dolydd’. Rydym yn ddiolchgar iawn i dîm cefn gwlad Kehoe sydd wedi rhoi'r defaid a llawer iawn o wybodaeth ac arbenigedd i ni.  

Rydym hefyd wedi penderfynu cadw ffens barhaol o amgylch y dolydd mawr, gan uwchraddio o bostion a rheiliau i ffensys derw hollt mwy traddodiadol (gyda metel addas i stoc pan fydd yr anifeiliaid ar y safle), a nifer o gatiau y gallwn eu hagor fel y gall pawb fwynhau'r dolydd drwy’r flwyddyn. Bydd hyn yn rhoi strwythur i’r ddôl pan fydd y lleiniau wedi’u torri, a chyfleoedd i roi rhagor o eglurhad am ein harferion cadwraeth.

Er ei fod yn dasg heriol yn gorfforol, mae rheoli'r dolydd yn dasg werthfawr iawn i staff a gwirfoddolwyr. Mae'n fraint cyfrannu at y cylch blynyddol sy'n arwain at arddangosfeydd blodau gwyllt a thegeiriau ysblennydd bob gwanwyn a haf. Mae'r plotiau sefydledig hyn, sydd heb eu cyffwrdd gan driniaethau aradr na chemegol ers yr 1950au, yn ffynnu. Maent yn cynnal tua 150 o rywogaethau o blanhigion cynhenid, gan gynnwys pum math o degeirian. Mae dros 2000 o degeiriau brych cyffredin yn ffynnu ar draws y dolydd. Mae'r dolydd hyn hefyd yn hafan i ffyngau, adar, amffibiaid, mamaliaid bach, ac infertebratau di-rif.

Gardd Gors

Mae’r ardd gors wedi'i chuddio mewn cornel dawel o'r coetir. Wedi'i bwydo gan ffynnon naturiol a'i chysgodi gan goed, mae'n parhau i fod yn ffrwythlon ac yn llaith drwy gydol y flwyddyn. Wedi'i llunio gan ymdrechion tirlunio hanesyddol yn yr 19eg ganrif, mae'r ardal wedi'i hadennill i raddau helaeth gan natur. Mae hen ffosydd draenio, sydd bellach wedi eu meddalu gan fwsogl a rhedyn, yn helpu i gynnal cymeriad corsiog yr ardd.

Mae ein llwybr pren newydd yn eich gwahodd i gamu'n syth i galon yr ardd gors. Wrth i chi ddilyn y llwybr troellog, byddwch yn camu dros dir corsiog a phyllau byrhoedlog sy'n darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt, cyn gadael trwy lwyn o goed bambŵ egsotig. Mae'r rhan ddiarffordd hon o'r ardd yn cynnig y lle perffaith i arafu a mwynhau synau heddychlon y coetir.  

Mae'r Ardd Gors yn gartref i gymysgedd o goed, rhedyn a phlanhigion blodeuol. Mae pantiau llaith a glannau ychydig yn sychach yn creu amodau amrywiol lle mae rhedyn cynhenid megis Asplenium, Dryopteris, a Polystichum yn ffynnu.

Mae planhigion egsotig mwy, gan gynnwys Woodwardia unigemmata, Todea barbara a Parablechnum cordatum, yn ffurfio clystyrau beiddgar o ddail, gyda boncyffion rhedyn coed yn codi o'r ddaear llaith i greu awyrgylch isdrofannol.

O'r Ardd Gors, gall ymwelwyr edrych draw at y casgliad o Rododendron, lle mae lliwiau'r gwanwyn a dechrau'r haf yn ategu'r dail o'u cwmpas.

Border Gloÿnnod Byw

Yn 2009, creodd Ann Wood o Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth border gloÿnnod byw yn Nhreborth. Ei bwrpas oedd denu gloÿnnod byw a phryfed buddiol eraill, wrth hefyd ddangos sut y gall amrywiaeth o blanhigion gardd gefnogi bywyd gwyllt. Wedi’i leoli yng nghornel ogledd dwyreiniol yr Ardd, mae’r border yn mwynhau llecyn cynnes a chysgodol yn agos i'r pwll bywyd gwyllt.

Dros amser, dechreuodd rhai o'r planhigion mwy egnïol ddominyddu'r gofod, gan allgau planhigion eraill o'r dyluniad gwreiddiol. Ysgogodd hyn gynlluniau adnewyddu, ynghyd â chyfle i ymestyn y border ac ad-drefnu'r ardal gyfagos i wneud gwaith cynnal a chadw, megis torri gwair, yn haws.

Er bod gwerth planhigion cynhenid o ran cynnal bywyd gwyllt yn aml yn cael ei bwysleisio, mae llawer o blanhigion gardd, gan gynnwys planhigion nad ydynt yn gynhenid, hefyd yn opsiwn ardderchog i ddenu gloÿnnod byw a pheillwyr pwysig. Mae astudiaeth ddiweddar gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn cadarnhau y gall planhigion gardd gefnogi peillwyr yn effeithiol. Mae'r RHS yn argymell:

  • Plannu cymysgedd o blanhigion blodeuol o wahanol wledydd a rhanbarthau
  • Blaenoriaethu rhywogaethau sy'n gynhenid i'r Deyrnas Unedig a hemisffer y gogledd
  • Sicrhau cyflenwad parhaus o flodau drwy gydol y flwyddyn, waeth beth fo'u tarddiad, i gynnal ystod eang o wenyn, pryfed hofran, a phryfed peillio eraill.

Mae llawer o ganolfannau garddio a chatalogau hadau bellach yn labelu planhigion sy'n arbennig o ddeniadol i beillwyr. Mae'r RHS hefyd yn hyrwyddo ei logo ‘Perfect for Pollinators' i arwain garddwyr.

Mae'r border gloÿnnod byw wedi'i ailgynllunio bellach i fod yn lletach ar y pen uchaf, ac mae'n cynnwys llwybr llechi yn y cefn er mwyn cael gwell mynediad ac i wneud gwaith cynnal a chadw’n haws. Bydd llwyni presennol megis Buddleja, sy'n leinio ymyl y coetir cyfagos ac sy'n boblogaidd gyda gloÿnnod byw, yn cael eu hategu ag amrywiaethau ychwanegol sy'n gyfeillgar i beillwyr. Mae ardal eistedd newydd hefyd wedi'i hychwanegu, sy’n gwahodd ymwelwyr i oedi a mwynhau golygfeydd y border a'r pryfed y mae'n eu denu.

Rydym wedi llunio rhestr blanhigion ddiwygiedig, yn seiliedig ar ddetholiad gwreiddiol Ann, i ymestyn y tymor blodeuo a gwneud defnydd o'r lle ychwanegol. Ar ôl ei blannu'n llawn, bydd y border a'r ardal gyfagos yn cynnig blodau o ddechrau'r gwanwyn hyd at ddiwedd yr hydref. Rydym hefyd wedi cynnwys Mahonia i ddarparu blodau gaeaf gwerthfawr i gacwn a phryfed eraill a all ddod i'r amlwg ar ddiwrnodau mwynach. Mae rhai o'r planhigion, yn arbennig y rhai blynyddol, yn cael eu tyfu o hadau yn yr Ardd, tra bydd rhai planhigion lluosflwydd a llwyni’n cael eu caffael o feithrinfeydd.

Mae'r Ardd yn arbennig o ddiolchgar i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth, a lwyddodd i sicrhau cyllid drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a'i ddyrannu i'r project hwn. Mae partïon gwaith myfyrwyr hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddarparu help ymarferol gyda'r gwaith adnewyddu. Rydym yn eich gwahodd yn gynnes i ymweld â'r border gloÿnnod byw, gwylio ei gynnydd, a mwynhau'r amrywiaeth o loÿnnod byw a phryfed eraill y mae'n eu denu.

Yr Ardd Gerrig

Nid yw'r ardd gerrig yn cael ei defnyddio i dyfu planhigion alpaidd yn unig, fel y'i cynlluniwyd yn wreiddiol gan ei chreawdwr Len Beer yn yr 1970au. Heddiw, yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth dan arweiniad gwirfoddolwyr ddechrau'r 2020au, mae'n adlewyrchu detholiad o blanhigion o ardal Môr y Canoldir, sy’n cyd-fynd â’r gwaith i baratoi at y dyfodol sy'n angenrheidiol i addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Mae hanner yr ardd wedi’i neilltuo i blanhigion y mae’n well ganddynt swbstradau niwtral neu sy’n gyfoethog o ran sylfaen, ac mae wedi'i gwneud o flociau calchfaen ac wedi'i orchuddio â darnau bach o galchfaen. Mae'r hanner hwn yn creu tirwedd o lwyni a chonwydd cromennog, ac mae planhigion llysieuol a bylbiau sy'n nodweddiadol o hinsawdd Môr y Canoldir yn tyfu oddi tanynt ac o'u cwmpas.

Mae'r hanner arall wedi'i wneud o flociau tywodfaen, wedi eu gwisgo â gwenithfaen glas. Mae hyn yn cadw’r Rhododendronau o'r plannu gwreiddiol, ond wrth i'r rhain ildio i amgylchedd poethach, byddant yn cael eu holynu gan lwyni sy'n goddef amodau mwy asidig mewn hinsoddau cynhesach, gan gynnwys rhostiroedd De Affrica, Rhosod y Graig a Lafant. Mae cysgod - a oedd unwaith yn wrthun i ardd greigiau, ond yn hanfodol mewn hinsawdd boeth - yn cael ei ddarparu gan gonwydd a choed llai.

Gardd Perlysiau Cymreig

Gardd Perlysiau Cymreig

Gwybodaeth am yr Ardd Perlysiau Cymreig

Croeso i’r Ardd Perlysiau Cymreig, gofod sydd â gwreiddiau yn nhreftadaeth gyfoethog, llên gwerin, a thraddodiadau iachau Cymru. Mae'r ardd hon yn dathlu hanes diddorol planhigion meddyginiaethol, a ddefnyddiwyd ers amser maith gan bobl Cymru i drin anhwylderau ac i wella llesiant.

Wedi'i ysbrydoli gan dirwedd Cymru, ac wedi'i chrefftio gan ddefnyddio deunyddiau lleol, mae'r ardd yn cynnwys dwy ardal eistedd gylchol sy'n gysylltiedig drwy lwybrau troellog hamddenol. Mae planwyr carreg sych yn cynnig lle i orffwys a chyfle i archwilio'r planhigion aromatig a chyffyrddol o agos. Yng nghanol yr ardd, mae murlun llechi trawiadol wedi'i ysgythru â logo'r ardd – teyrnged i symbolaeth Geltaidd a'r rhedyn cynhenid sy'n ffynnu ar y safle.

Mae'r cynllun plannu yn declyn dweud stori bywiog, sy'n dod â thraddodiadau iachawyr canoloesol Cymru yn fyw – gan gynnwys y Meddygon Myddfai enwog – a ddefnyddiodd blanhigion i wneud rhwymedïau ymarferol a chyfriniol.

Roedd y rhwymedïau hynny’n cynnwys:

  • Dŵr distyll rhosod coch at y ddannoedd
  • Saffrwm wedi'i gleisio fel tonic sobreiddiol
  • Y wermod wen i leddfu cleisiau
  • Afalau i gael gwared â dafadennau
  • Teim at annwyd
  • Mêl a rhosmari i leddfu cyfog

Er bod rhai triniaethau’n seiliedig ar fewnwelediad meddygol cynnar, roedd eraill wedi eu trwytho mewn chwedloniaeth - megis tafod y carw i hyrwyddo diweirdeb neu glari gwyllt i gadw cenfigen draw.

Chwedl Myddfai

Yn y 12fed ganrif, mae'r stori'n dechrau ym mhentref Myddfai, Sir Gaerfyrddin, lle dechreuodd iachawr o'r enw Rhiwallon etifeddiaeth o feddyginiaeth lysieuol. Mae’r chwedl yn adrodd am wraig ddirgel o lyn cyfagos a briododd Rhiwallon a geni tri mab iddo. Er iddi ddychwelyd i'r llyn yn ddiweddarach, trosglwyddodd ei gwybodaeth am iachâd llysieuol i'w mab hynaf, gan ddechrau llinach o feddygon a oedd yn ymarfer ymhell i mewn i'r 18fed ganrif.

Yn ôl llên gwerin, comisiynwyd Rhiallon gan y Tywysog Rhys Gryg o Dde Cymru i ddogfennu defnyddiau meddyginiaethol planhigion cynhenid yn y Gymraeg, er budd cenedlaethau'r dyfodol. Gosododd yr ysgrifau hyn sylfaen i ganrifoedd o wybodaeth lysieuol, a chofnodwyd rhywfaint ohoni’n ddiweddarach yn Llyfr Coch Hergest – conglfaen llenyddiaeth ganoloesol Cymru.
Er y mai chwedl yw stori'r ddynes yn y llyn, mae gwaddol Meddygon Myddfai yn hollol wir. Lledodd eu henw da ledled Ewrop, gan ennill clod iddynt am eu dealltwriaeth ddofn o feddygaeth ar sail planhigion.

Gwreiddiau Hynafol, Gwyddoniaeth Fodern

Er bod yr ardd yn talu teyrnged i arferion llysieuol hanesyddol, mae hefyd yn tynnu sylw at berthnasedd parhaus planhigion mewn meddygaeth fodern. Mewn cydweithrediad â chydweithwyr o'r Ysgol Feddygaeth, rydym yn archwilio planhigion Prydeinig a Tsieineaidd sydd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gofal iechyd, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Malaria: Artemisinin o Artemisia annua, cwinin o Cinchona (wedi'i dyfu yn ein Gardd Tsieineaidd)
  • Clefyd Alzheimer: Galantamin o Galanthus nivalis (eirlys), sy'n tyfu'n eang ar draws y safle
  • Clefyd pwlmonaidd cronig: Tiotropium, sy'n deillio o Atropa belladonna (a geir yn yr Ardd Gerrig)
  • Lleddfu poen: Capsaicin o Capsicum annuum (tsili), a morffin/codin o Papaver somniferum (pabi opiwm – a dyfir yn yr Ardd Tsieineaidd)
  • Clefyd Parkinson: Apomorffin, deilliad o forffin
  • Asbirin: Wedi'i ddeillio o risgl helyg – rydym yn tyfu gwahanol rywogaethau helyg yn Nhreborth
  • Triniaeth canser: Paclitaxel o’r Ywen - un o'n tri choniffer cynhenid
  • Methiant y galon: Digitoxin o Digitalis (bysedd y cŵn) – wedi'i dyfu yn yr Ardd Gerrig ac yn cael ei luosogi ar gyfer yr Ardd Gymreig
     

Project Gardd y Ddwy Ddraig

Cydweithrediad rhwng Gardd Fotaneg Treborth, Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Yunnan, a'r Ardd Fotaneg Frenhinol yng Nghaeredin, yw Project Gardd y Ddwy Ddraig, sy’n cael ei gefnogi gan Sefydliad Confucius Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a'r Cyngor Prydeinig.

Wedi'i enwi ar ôl symbolau cenedlaethol Tsieina a Chymru, nod y project yw darparu hyfforddiant arloesol i raddedigion diweddar trwy leoliadau mewn gerddi botaneg yn y ddwy wlad. Mae'r rhaglen yn helpu cyfranogwyr i ennill profiad ymarferol ac yn cefnogi datblygiad gyrfa mewn garddwriaeth ac addysg amgylcheddol.

Mae'r fenter wedi meithrin partneriaethau cryf rhwng darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a gerddi botaneg, gan arwain at ddatblygu cwricwla hyfforddiant galwedigaethol newydd. Mae hyfforddeion yn cael profiad ymarferol ar draws y gerddi partner ac yn rhoi eu sgiliau ar waith mewn lleoliadau go iawn.

Nodwedd ganolog o'r project yw creu Gardd Feddyginiaethol Tsieineaidd yn Nhreborth. Mae'r gofod hwn yn arddangos fflora cynhenid Tsieina ac ymarfer hynafol meddygaeth draddodiadol Tsieineaidd sy'n dal i gael ei defnyddio'n helaeth heddiw. Mae'r ardd hefyd yn cefnogi ymchwil gwyddonol i briodweddau meddyginiaethol planhigion.

Wedi'i lleoli ar hen forder y Trocodendron, mae'r ardd yn cynnwys sbesimenau aeddfed megis Malus hupehensis ac Aralia undulata. Dechreuodd y gwaith tirlunio yn 2013, gan drawsnewid y gofod yn dair adran grwm o amgylch ardal ganolog i adfyfyrio, ymgymryd â dysgu creadigol ac arferion ymarfer corff Tsieineaidd traddodiadol.

Mae'r dyluniad plannu yn cynnwys rhywogaethau strwythurol a phensaernïol megis Betula ermanii, Hamamelis mollis, Tetrapanax papyrifer, a Decaisnea fargesii. Cafodd monolithau llechi sy'n cynrychioli mynyddoedd, tirweddau bach, a cherrig ysgolheigion, eu hysbrydoli gan ddyluniad gerddi Tsieineaidd clasurol a'u rhoi gan Derbyshire Aggregates.

Mae porth y lleuad llarwydden wedi'i wneud â llaw yn nodi mynedfa'r ardd, wedi'i amgylchynu gan Pinus armandii, sy’n adlewyrchu'r coed pinwydd symbolaidd a welir yn aml mewn gerddi Tsieineaidd. Yn draddodiadol, credir bod ffyngau sy'n tyfu ar y pinwydd hyn yn hybu hirhoedledd ac iechyd.

Cyfrannodd artistiaid lleol chwe mainc dderw werdd, ac ychwanegwyd nodwedd ddŵr powlen lili Ferdigris er cof am Eilir Morgan a oedd yn Ddarlithydd Gwyddorau’r Eigion.

Mae’r gwaith plannu'n mynd rhagddo gyda chymysgedd o rywogaethau cysgod sych a rhywogaethau sy'n hoffi lleithder, gan gynnwys Sarcococca, Epimedium, Podophyllum, a rhedyn meddyginiaethol. Mae'r ardd yn esblygu'n flynyddol, gan ymgorffori planhigion meddyginiaethol Tsieineaidd newydd megis rhododendron, Cornus, Rubus, ac amrywiaeth o blanhigion lluosflwydd llysieuol.

Coed µþ²¹³¾²úŵ yn Nhreborth

Mae'r casgliad hwn wedi hen ennill ei blwyf gyda'r caffaeliadau cynharaf yn dyddio'n ôl i'r 1980au ac mae bellach yn cynnwys clystyrau sylweddol a thrawiadol o lawer o rywogaethau, yn bennaf o Dde-ddwyrain Asia.

Mae'r rhain yn dangos yr amrywiadau deniadol niferus yng nghoesynnau a dail y glaswelltau enfawr hyn, yn enwedig yn yr egin newydd sy'n ymddangos yn y gwanwyn.

Mae'r rhan fwyaf o'r casgliad wedi'i leoli yng nghornel gogledd-orllewin yr ardd, gyda sbesimenau allanol yn yr Ardd Gors a rhai i’w gweld mewn potiau o amgylch yr adeiladau.

Un o nodweddion mwyaf nodedig coed bambŵ yw anghysondeb eu blodeuo, yn aml dros ddegawdau neu hyd yn oed ganrifoedd, ac yna maent yn aml yn marw. Gan fod llawer o'r rhywogaethau a geir mewn gerddi yn y Deyrnas Unedig neu Ewrop yn ôl pob tebyg yn tarddu o un casgliad gwyllt, maent yn tueddu i flodeuo ar yr un pryd. Rydym wedi cael tair rhywogaeth yn gwneud hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae pedwerydd yn blodeuo ar hyn o bryd.
 

Border De Affrica

Sefydlwyd Border De Affrica gan Pauline Perry, un o Gyfeillion gwreiddiol yr Ardd a oedd wedi gweithio am nifer o flynyddoedd yng Ngardd Fotaneg Stellenbosch.

Mae'r gwely’n arddangos planhigion o Weriniaeth De Affrica ond hefyd o Lesotho, Eswatini a Botswana. Mae rhai genera wedi hen ymsefydlu mewn gerddi yn y Deyrnas Unedig, megis Agapanthus, Hesperantha a Crocosmia, ond gwelir eraill yn llai aml, megis Eucomis, Ornithogalum a chynrychiolwyr o'r teulu Restio. Yn y gorffennol, byddai llawer o'r rhain wedi cael eu hystyried yn rhy dyner i'w tyfu y tu allan yn y Deyrnas Unedig, ond rydym bellach yn cydnabod bod rhew i’w weld ledled llawer o Dde Affrica yn y gaeaf, a gall deunydd sy'n deillio o'r ardaloedd hynny ffynnu yn ein hardaloedd mwynach.

Y nod yw ceisio bod â blodau diddorol o ddiwedd y gwanwyn hyd at ddiwedd yr hydref.

Gellir gweld mwy o blanhigion o'r rhan hon o'r byd yn un o'r gwelyau wrth y Labordy ac yn y TÅ· Tymherus.

 

Perllan Ffrwythau Treftadaeth Gymreig

Mae ein Perllan Ffrwythau Dreftadaeth Gymreig yn arddangos coed cynhenid prin megis Eirin Dinbych, Afal Enlli, a Cheirios y Cariad. Mae gan yr amrywiaethau unigryw hyn wreiddiau dwfn yn hanes Cymru ac maent wedi esblygu i lwyddo yn ein hinsawdd laith, arfordirol.

 

Hanes a Darganfyddiad

Hen afal coginio Fictoraidd, sy'n mynd yn ôl i'r 1870au, o leiaf. Enwyd ar ôl ei siâp anarferol, yn hytrach na'i flas.

Ffrwyth

Afal coginio cynnar iawn yw hwn. Gellir hel y ffrwythau ym mis Awst, byddant yn para tan fis Hydref. Gwyrdd llachar ac yna'n troi'n aur. Gall y cnwd fod yn hynod o drwm, hyd yn oed ar goed ifanc iawn. Mae'r ffrwyth yn fawr iawn. Rhagorol ar gyfer modrwyau afal sych (gwyn a siarp). O'i goginio, mae'n troi'n fwtrin ysgafn, ffres. 

Grŵp peillio B

 

Hanes a Darganfyddiad

Crëwyd gan John Basham a'i feibion o Fasaleg yn Sir Fynwy ym 1900 o hadau Cocsys Pipin Oren. Roedd yr afal llawn sudd hwn yn amrywiaeth boblogaidd ac mae ganddo flas sawrus. Dywedir bod y blas ar ei orau ar Ddiwrnod Santes Cecilia (22 Tachwedd). Cecilia yw nawddsant cerddoriaeth.

Ffrwyth

Mae Santes Cecilia yn goeden gref sy'n cael cnwd hynod o drwm. Dylid hel y ffrwythau ym mis Hydref a'u defnyddio rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Gwobr Teilyngdod yr RHS 1918

Tystysgrif Dosbarth Cyntaf yr RHS 1919

Grŵp peillio B

Hanes a Darganfyddiad

Afal coginio gwyrdd mawr, a dyfwyd ar Ynys Môn ers amser maith. Cofnodwyd am y tro cyntaf yn y 1600au. Enwyd ar ôl ei siâp unigryw. O'i goginio, mae'n troi'n fwtrin persawrus gyda blas cryf. Mae angen ychydig o siwgr arno. Roedd yn cael ei fwyta'n aml wedi ei lapio mewn crwst ac yna ei bobi gan weithwyr amaethyddol yn y caeau. Mae'r ffrwyth yn cadw am nifer o fisoedd mewn storfa oer. Mae'r blas yn tyneru gydag amser ac yn ei wneud yn afal bwyta ffres, yn ddelfrydol i fywiogi salad. Mae'r cnwd yn drwm.

Ffrwyth

Yn ddelfrydol i berllannau organig yng Nghymru. Yn wydn iawn rhag clefydau. Dylid hel y ffrwythau ddechrau mis Hydref Eu defnyddio rhwng mis Hydref a mis Ionawr

Grŵp peillio C

Hanes a Darganfyddiad

Cymuned chwarel ynysig oedd Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn yng ngogledd Cymru a dim ond o'r môr y gellid cyrraedd y pentref. Daethpwyd o hyd i afal coch hyfryd gyda blas ffenigl diddorol bedair blynedd yn ôl yn olion gardd rheolwr y chwarel. Er bod y goeden dros 100 mlwydd oed, mae'r hen goeden dolciog yn dal i gynhyrchu ffrwythau da.

Mae adfeilion Nant Gwrtheyrn bellach wedi cael eu hadfer a chânt eu defnyddio fel canolfan iaith a threftadaeth Cymru. Mae'r llwybr i lawr i'r pentref a'r golygfeydd i'r môr yn wych. Cofiwch ymweld â'r amgueddfa a'r caffi.

Ffrwyth

Mae'r afal yn naturiol wydn rhag clefydau ac mae'n ddelfrydol i berllannau organig yng Nghymru. Dylid hel y ffrwythau ym mis Hydref a'u defnyddio rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr.

Grŵp peillio B

Hanes a Darganfyddiad

Mae’n dyddio'n ôl i'r 18fed ganrif. Roedd yn boblogaidd iawn gyda glowyr de Cymru gan fod y sudd siarp ond melys yn arbennig o dda am dorri syched i lawr y pwll.

Ffrwyth

Dylid hel y ffrwythau a'u bwyta ym mis Medi. Mae wedi cael ei ddefnyddio dros y blynyddoedd fel amrywiaeth boblogaidd i wneud seidr cynnar cadarn ond melys, yn barod ar gyfer y Nadolig. 

Grŵp peillio B

Hanes a Darganfyddiad

Crëwyd gan Ian Sturrock a'i feibion i Mr C. Golan, Plas Ty Coch, Caernarfon. Y nod oedd cynhyrchu ceirios a fyddai'n ffynnu yn hinsawdd Cymru, hynny yw: Mae'n hunan-ffrwythloni, nid yw'n dueddol o gracio mewn blynyddoedd gwlyb, na  dioddef o gancr bacteriol ac mae'n aeddfedu'n dda mewn gwanwyn cymharol garw. Croeswyd Stella gyda Napoleon Bigarreau, a groeswyd wedyn â Devon Mazzard. Cafodd y coed eu profi ar hyd glannau'r Fenai dros y deng mlynedd diwethaf.

Ffrwyth

Ceirios melys, maint canolig gyda chroen coch. Cnawd pinc a llawn sudd. Dechrau mis Awst yw'r amser hel (yng ngogledd Cymru).

Grŵp peillio: Hunan-ffrwythloni

Hanes a Darganfyddiad

Crybwyllwyd ym 1785 am y tro cyntaf. Nid oes neb yn sicr yn union ble yn Ninbych. Dyma'r unig goeden eirin Gymreig gynhenid i oroesi. Mae ganddi ffrwythau mawr coch tywyll gyda dotiau euraidd. Mae'r cnawd yn felys a blasus ac yn llawn sudd.

Ffrwyth

Rhagorol o'u bwyta'n gynnes ac yn syth o'r goeden. Maent hefyd yn dda i goginio a gwneud jam. Y coed ifanc a gynhyrchir yn awr yw'r rhai cyntaf i fod ar gael ers dros 100 mlynedd. Mae'r ychydig o goed sy'n weddill yn rhyfeddol rydd o afiechydon. Mae'r ffaith i ni ailgyflwyno Eirin Dinbych wedi arwain at ffurfio gŵyl Eirin Dinbych. Cofiwch ymweld ym mis Hydref! Dylid hel y ffrwythau a'u defnyddio yng nghanol mis Medi.

Grŵp peillio: Hunan-ffrwythloni

Hanes a Darganfyddiad

Mae’r amrywiaeth Pig Aderyn i’w ganfod yn Llandudoch, Sir Benfro, a chredir iddo gael ei blannu gan fynachod Tiron yn yr abaty at ddibenion gwneud seidr. 

Ffrwyth

Afal bwyta canol tymor gyda chnawd melys a suddlon. Mae ganddo groen gwyrdd gyda streipiau ysgarlad dwfn. Mae top yr afal yn debyg i big aderyn. Mae Pig Aderyn hefyd yn gwneud seidr sengl cynhaeaf rhagorol. Mae cofnod bod Esgob Tyddewi wedi beirniadu Mynachod Llandudoch am eu gor-yfed!

Grŵp peillio B

Hanes a Darganfyddiad

Wedi'i ganfod yn tyfu y tu allan i furiau Castell Conwy. Mae Jac y Do yn enw traddodiadol i gyfeirio at unigolion sydd wedi eu geni o fewn muriau'r dref. Gellir dod o hyd i lawer o Jac Dos yn clwydo o amgylch y trefi, y muriau a'r berllan.

Ffrwyth

Croen crwn melyn golau gyda rhywfaint o goch pinc a browngoch. Chwerwfelys gyda llawer o danin. Cnydiwr egnïol, yn cwympo ddiwedd mis Medi.

Coetir

Mae coetir Gardd Fotaneg Treborth yn ymestyn dros oddeutu 16 hectar ac yn gorwedd rhwng dwy bont eiconig, sef Pont Menai (a ddyluniwyd gan Thomas Telford) a Phont Britannia (a ddyluniwyd gan Robert Stephenson) sy'n cysylltu Gwynedd ag Ynys Môn. Mae hefyd yn rhan o Dirwedd Hanesyddol Arfon, a ddiffinnir gan Gofrestr Dirweddau Hanesyddol Cymru.

Mae'r ardal hon yn cynnwys enghraifft arfordirol brin o goetir derw morwrol hynafol, dros 400 mlwydd oed, ac mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn cynnwys coetir bedw gwlyb calchaidd nodedig, ynghyd â phlanhigfeydd o dderw, ynn a sycamorwydd ar ôl y rhyfel, ac mae rhai ohonynt bellach dros 175 mlwydd oed. O fewn y coetir hwn, mae Ysgol Goedwig lewyrchus yn hyrwyddo chwarae a dysgu yn yr awyr agored, yn seiliedig ar natur, mewn cydweithrediad â phartneriaid megis Coed Lleol a Nature Keen.

Mae'r coetir yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch sy'n bridio, crëyrfa sefydledig, a nifer o rywogaethau o famaliaid bach, adar, infertebratau, a thros 500 o rywogaethau o ffyngau. Mae'n gwasanaethu fel ystafell ddosbarth awyr agored ddeinamig at ddibenion ymgysylltu cymunedol, addysgu myfyrwyr ac ymchwil academaidd.

Mae Gardd Fotaneg Treborth wedi derbyn £250,000 drwy’r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid yn cefnogi adfer ac adfywio coetir 16 hectar Treborth — gan wella bioamrywiaeth, gwella mynediad, a chreu profiadau dysgu ystyrlon trwy weithdai, hyfforddiant a digwyddiadau.

Wedi'i leoli rhwng Pont Menai a Phont Britannia, mae coetir derw hynafol Treborth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig dynodedig ac yn rhan o Dirwedd Hanesyddol Arfon. Mae'n gartref i wiwerod coch, crëyrfa, bywyd gwyllt amrywiol, a dros 500 o rywogaethau o ffyngau, ac mae'n gwasanaethu fel canolfan addysg, cadwraeth ac ymgysylltu cymunedol.

Bydd y project hwn yn:

  • Gwella iechyd a gwytnwch coetiroedd fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru
  • Sefydlu parthau cadwraeth a gwella amrywiaeth cynefinoedd
  • Gwella mynediad gyda llwybrau newydd, arwyddion a dehongliadau
  • Cefnogi llesiant drwy weithgareddau sy'n seiliedig ar natur
  • Cynnig cyfleoedd dysgu ymarferol mewn crefftau coedwig, ymchwil a sgiliau traddodiadol

Bydd gweithdai, cyrsiau a theithiau coetir yn rhedeg drwy gydol y project.

Yr Ardd Goed

Yr Ardd Goed yw'r stribed coediog rhwng mynedfa'r Porth a'r tai gwydr, wedi'i ffinio gan y ffordd a'r rheilffordd. Ar un adeg, roedd coed hunan-hadu a rhywogaethau ymledol megis bambŵ, llawryf ceirios, a rhododendron wedi tyfu'n orlawn, ond mae wedi cael ei drawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf. Helpodd llwybr yr arfordir i’w agor, a diolch i ymdrechion gwirfoddolwyr, myfyrwyr a thîm Ystadau’r Brifysgol, mae’r ardal bellach yn cynnwys llennyrch hardd a fistâu coed trawiadol.

Mae stormydd diweddar wedi dod â newidiadau pellach, gan gwympo, yn anffodus, rhai sbesimenau aeddfed, gan gynnwys y cedrwydd arogldarth (Calocedrus decurrens) a difrodi'r onnen fawr (Fraxinus excelsior). Yn ffodus, roedd y rhan fwyaf o'r coed yr effeithiwyd arnynt eisoes yn dirywio.

Rydym wedi sefydlu amserlen goed, sy'n dangos sut mae rhywogaethau coed wedi cyrraedd Cymru dros amser. Mae pob rhywogaeth wedi'i labelu yn Gymraeg, Saesneg a Lladin, gyda chyd-destun ar ei chyrhaeddiad, boed wedi'i chyflwyno ar ôl y rhewlif, yn yr Oesoedd Canol, neu yn yr 19eg ganrif. Bydd taflen ac adnoddau gwefan yn cynnig rhagor o fanylion.

Mae uchafbwyntiau presennol yn cynnwys coed prin megis y goeden arch (Cryptomerioides Taiwania), derw llifddant (Quercus acutissima), derw Hwngaraidd (Quercus frainetto), ffynidwydd Douglas, sbriws, ac yw, a fydd i gyd yn cael eu cadw a'u hategu â phlanhigfeydd newydd dros amser, yn ôl cyllid a chymorth.

Yn 2015–2016, aethom ati i blannu rhywogaethau a gyflwynwyd gan y Rhufeiniaid, cnau Ffrengig, mwyar Mair, a gellyg gwyllt mewn ardaloedd clir i'r dwyrain o faes parcio llwybr yr arfordir. Lle bo modd, rydym yn defnyddio coed o darddiad Cymreig.

Rydym hefyd yn gobeithio gwella diddordeb y gwanwyn trwy blannu blodau gwyllt cynhenid megis clychau'r gog, eirlysiau, cennin Pedr (gan gynnwys cennin Pedr Dinbych-y-pysgod), anemonïau'r coed, a briallu, gan flaenoriaethu rhywogaethau gwyllt go iawn dros gyltifarau gardd.

Y Pyllau

Mae pyllau ymhlith y cynefinoedd mwyaf bioamrywiol ym Mhrydain, gan gynnal 80% o rywogaethau planhigion dŵr croyw a llu o anifeiliaid, megis llyffantod, pryfed, a'r adar a'r ystlumod sy'n bwydo arnynt. Yn anffodus, collodd Prydain hyd at filiwn o lynnoedd yn yr 20fed ganrif oherwydd amaethyddiaeth, datblygiad ac esgeulustod.

Mae pyllau'n esblygu'n naturiol dros amser, gan droi'n wlyptiroedd yn araf, ac yn y pen draw yn goetir. Mae hyn yn digwydd yn gyflymach mewn iseldiroedd sy'n llawn maetholion. Er gwaethaf eu symlrwydd, mae pyllau'n cynnal ecosystemau cymhleth, a dim ond o dan ficrosgop y gellir gweld llawer o’r ecosystemau hyn. Maent hefyd yn cysylltu ag amgylcheddau cyfagos, gan gynnal rhywogaethau megis brogaod, gweision y neidr, a hyd yn oed gwyfynod dyfrol.

Rydym yn ffodus i fod â dau brif bwll yng Ngardd Fotaneg Treborth, ynghyd â dau bwll trochi llai. Mae'r rhain yn cael eu rheoli'n weithredol i arddangos planhigion dyfrol ac i gefnogi bioamrywiaeth er budd bywyd gwyllt dyfrol a daearol.

Wedi'i leoli ger yr Ardd Tsieineaidd, mae'r pwll hwn, sydd wedi'i leinio, wedi bodoli ers dros 20 mlynedd, ac ar un adeg roedd yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion cynhenid ac addurnol. Fodd bynnag, mae rhywogaethau ymledol, yn enwedig Briweg Seland Newydd (Crassula helmsii) wedi tarfu ar ei ecosystem. Gall y planhigyn hwn, a gyflwynwyd trwy ddamwain, orchuddio pyllau’n gyflym, gan allgau rhywogaethau eraill. Rydym wedi gorfod draenio a chlirio'r pwll ddwywaith i gael gwared arno, ac mae hynny hefyd wedi effeithio ar amrywiaeth planhigion cynhenid.

Ers hynny, rydym wedi atgyweirio leininau sydd wedi eu difrodi gan fandaliaeth ac wedi ailgynllunio’r ardal gyfagos i atal aflonyddwch pellach. Rydym hefyd wedi datblygu border gwlyptir newydd i gefnogi planhigion sy'n hoffi lleithder ac i greu byffer mwy naturiol.

 

Wedi'i adeiladu rhwng 2009–2010, mae'r pwll newydd ddwywaith maint yr hen un, ac mae'n cynnwys dau bwll trochi. Er gwaethaf defnyddio pridd sy'n brin o faetholion, arweiniodd twf cyflym planhigion at gyflwr trwchus, tebyg i gors, erbyn 2021. Mae’r rhywogaethau ymledol Crassula helmsii a phluen y parot (Myriophyllum aquaticum) i'w cael yma hefyd.

Er mwyn adfer bioamrywiaeth y pwll, aethom ati i ddechrau ar y gwaith clirio fesul cam ddechrau 2022. Aeth gwirfoddolwyr, myfyrwyr a staff ati i gael gwared ar blanhigion ymledol ac i agor ardaloedd o ddŵr i gefnogi amffibiaid, gweision neidr a mursennod. Roedd pentyrrau planhigion dros dro’n caniatáu i anifeiliaid a oedd wedi eu dadleoli ddychwelyd yn ddiogel.

Bydd y broses barhaus hon yn cymryd ychydig flynyddoedd, a dim ond ar ôl dwy flynedd yn olynol heb rywogaethau ymledol y byddwn yn llwyddo’n llawn. Mae cynlluniau hirdymor yn cynnwys disodli cynalyddion pren â waliau llechi ac ailfodelu ardal y pwll trochi’n llwyr gan ddefnyddio pridd glân sy’n brin o faetholion. Mae planhigion prin megis y chwysigenddail cyffredin yn cael eu cadw i'w hailblannu pan fydd yr amodau'n sefydlogi.

Yn y cyfamser, bydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn helpu i reoli lefelau maetholion a chefnogi amrywiaeth gyfoethog o fywyd pwll yn Nhreborth.

Gardd Maint Cymru

Enillodd gardd Maint Cymru fedal Aur a'r wobr Gorau yn y Categori yn y categori ‘All About Plants’ yn sioe Flodau Chelsea yn 2024. Adleolwyd yr ardd i Dreborth bythefnos ar ôl y sioe, gan ail-greu hanfod yr ardd gyda rhai mân newidiadau a syniadau newydd i sicrhau ei bod yn ffynnu yn ei chartref newydd yma yng Nghymru.

Mae Gardd Maint Cymru wedi'i hysbrydoli gan doreth a bioamrywiaeth gyfoethog bywyd planhigion mewn coedwigoedd trofannol, wrth wneud sylwadau ar ganlyniadau dinistriol datgoedwigo.  

Mae 313 o rywogaethau wedi cael eu plannu i adlewyrchu nifer y rhywogaethau coed a all fod mewn un hectar o goedwig drofannol. Mae tyrrau main coed colofnog yn esgyn tua'r awyr. Mae coed alpaidd bach yn clystyru ymhlith y creigiau, wedi eu taenellu â blodau melyn - lliw gobaith.

Yn olaf, mae cwpl o doeau bach yn swatio ar byst tal, sy’n dwyn i gof natur fregus ein bodolaeth braf ninnau. Gardd yw hon sy'n anelu at orchuddio’r gwyliwr â hud, a’i ysbrydoli i wneud mwy i amddiffyn ein coedwigoedd gwerthfawr.

TAI GWYDR

Y TÅ· Trofannol

Camwch i mewn i goedwig law gudd o dan wydr. Mae'r Tŷ Gwydr Trofannol yn efelychu amodau cynnes a llaith coedwigoedd trofannol, gyda thymheredd yn cael ei gynnal tua 30°C drwy gydol y flwyddyn. Mae'n cynnal casgliad byw a phwysig o rywogaethau planhigion trofannol o Asia, Affrica, yr Amerig, a gogledd Awstralia, gan ei wneud yn adnodd gwerthfawr o ran addysgu ac ymchwil.

Yma, fe welwch gnydau economaidd pwysig megis pupur du a'r banana Cavendish, sy'n cynhyrchu bananas Cymreig yn rheolaidd, heb y milltiroedd awyr. Mae'r planhigion adlewyrchu strwythur nodweddiadol coedwig law, gyda rhywogaethau tal yn ffurfio canopi sy'n cysgodi isdyfiant cyfoethog o redyn trofannol, tegeiriau epiffytig, bromeliadau, a phlanhigion cigysol.

Mae dringwyr megis Aristolochia labiata yn arddangos strategaethau peillio rhyfeddol, tra bod Ficus aurea mawr yn dangos ecoleg gymhleth ffigys tagu. Mae planhigion tŷ cyfarwydd, megis Fittonia a Monstera yn tyfu ochr yn ochr â rhywogaethau prin a rhywogaethau sydd mewn perygl megis Amorphophallus titanum a’r Stangeria eriopus.

Wedi'i gynllunio fel amgylchedd addysgu trochol, mae'r TÅ· Gwydr Trofannol yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr a myfyrwyr archwilio amrywiaeth planhigion trofannol, gan gefnogi addysgu ac ymchwil mewn ecoleg, ffisioleg, systemateg a chadwraeth.

Y TÅ· Tymherus

Camwch i’n Tŷ Tymherus i weld casgliad bywiog o rywogaethau egsotig ac anarferol o ranbarthau tymherus Affrica, Awstralia, Seland Newydd, Asia ac Ynysoedd Môr y De.

Uchafbwyntiau’r Tŷ Gwydr

  • Casgliad Cacti a Phlanhigion Suddlon: Yn arddangos planhigion sydd wedi addasu i wres a sychder eithafol, gan gynnwys tomen o blanhigion suddlon trawiadol gyda rhywogaethau Affricanaidd, Gogledd America a De America.
  • Bylbiau De Affrica: Mae'r bylbiau hyn yn ffynnu yng nglaw’r gaeaf ac yn blodeuo'n ysblennydd yn ystod tymor glawog y Penrhyn (Mai-Gorffennaf).
  • Endemigion Tenerife: Yn cynnwys planhigion prin megis clychau’r eos a phinwydd y Caneri, sy'n adlewyrchu ecoleg folcanig unigryw'r ynys.

Ffrwydrad o Liw

Mwynhewch arddangosfeydd bywiog gan yr aderyn paradwys (Strelitzia regina), y Bougainvillea pinc llachar, y llwyn marmaled oren tanbaid (Streptosolen jamesonii), ac amrywiaeth o degeiriau, palmwydd a rhedyn coed.

Egluro Planhigion Suddlon

Mae planhigion suddlon yn storio dŵr mewn dail, coesynnau neu wreiddiau, ac yn ffynnu mewn amgylcheddau cras. Mae ein casgliad yn cynnwys:

  • Planhigion Suddlon â Dail: Megis Agave a chennin tÅ· (Aeonium)
  • Planhigion Suddlon â Choesyn: Gan gynnwys cacti eiconig a rhywogaethau Euphorbia
  • Pachycauls: Megis Troed yr Eliffant (Dioscorea elephantipes), gyda boncyffion trwchus i storio dŵr

Cadwraeth a CITES

Mae llawer o blanhigion suddlon mewn perygl oherwydd gor-gaslu a’r ffaith bod cynefinoedd yn cael eu colli. Mae Treborth yn cefnogi cadwraeth drwy addysg a thrin, gan lynu wrth reoliadau CITES sy'n cyfyngu ar fasnach ryngwladol rhywogaethau a warchodir. Mae planhigion megis yr aloe troellog (Aloe polyphylla) yn rhan o'n hymdrechion cadwraeth ex-situ i warchod, ac o bosibl ailgyflwyno, rhywogaethau sydd o dan beth bygythiad.

Hanes

Dechreuodd y casgliad o blanhigion suddlon yn yr 1970au ac ehangodd yn 2008 gydag adeiladu'r twmpath presennol, gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy. Mae'n parhau i fod yn ystafell ddosbarth fyw i ymwelwyr a myfyrwyr.

Y TÅ· Tegeiriau

Camwch i fyd o ryfeddodau botanegol yn Nhŷ'r Tegeiriau, sy’n gartref i gasgliad rhyfeddol sy'n cynrychioli rhywogaethau o bob cyfandir ac eithrio Antarctica. Gyda chynrychiolwyr o bedwar o'r pum is-deulu tegeiriau, mae ein casgliad byw yn arddangos yr amrywiaeth nodedig o ran ffurf, lliw a strwythur a geir o fewn y teulu Orchidaceae.

Mae uchafbwyntiau'n cynnwys tegeiriau o fannau poblogaidd o ran bioamrywiaeth megis yr Andes, Costa Rica, Cadwyn Arfordirol yr Iwerydd ym Mrasil, yr Himalayas, De-ddwyrain Asia, Indonesia, Ynysoedd Philippines, Indochina, Taiwan, Japan, a Madagascar. Mae'r rhanbarthau hyn, sy'n gyfoethog o ran fflora endemig, yn cael eu hadlewyrchu yn ehangder ein casgliad.

Wedi'i gysegru er cof am yr Athro Peter Greig-Smith (1922–2003), ecolegydd planhigion a selogwr tegeiriau a oedd yn cael ei barchu'n fyd-eang, mae'r casgliad yn parhau i dyfu o ran cwmpas ac effaith. Mae'n gwasanaethu fel adnodd addysgu ac ysbrydoliaeth drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig i fyfyrwyr prifysgol ond hefyd i artistiaid, naturiaethwyr ac ymwelwyr o bob oed.

Mae tegeiriau’n ennyn chwilfrydedd. Fel y teulu mwyaf o blanhigion blodeuol, mae eu perthnasoedd cymhleth â pheillwyr yn tynnu sylw at eu pwysigrwydd ecolegol a'u rôl mewn bioamrywiaeth fyd-eang. Mae llawer o'r rhywogaethau sydd i’w gweld bellach yn brin neu'n ddiflanedig yn y gwyllt, gan dynnu sylw at arwyddocâd cadwraeth ex-situ.

P'un a ydych yn cael eich denu gan eu cynllwyn gwyddonol neu eu harddwch artistig, mae tegeiriau Treborth yn cynnig cipolwg hudolus ar ecosystemau mwyaf amrywiol a bregus y byd.

Meini Prawf Cyfansoddiad y Casgliad

  • Sbectrwm eang o rywogaethau cynrychioliadol o'r holl Lwythau, Is-lwythau etc. gan ddangos amrywiaeth enfawr o forffoleg a chynefin.  Mae hyn yn rhoi ffynhonnell ddi-ben-draw o ddeunydd ar gyfer dysgu systemateg, anatomeg, bioamrywiaeth, cadwraeth ac ecoleg.
  • Rhywogaethau sydd o ddiddordeb botanegol ac sy'n ysblennydd i'w gweld.
  • Blodau ar gyfer persawr - ystyrir hyn yn bwysig iawn gan mai hwn yw'r teulu o blanhigion sydd â'r ystod ehangaf o bersawrau a pherarogleuon.  Mae'r math o bersawr a gynhyrchir, a'r adeg o'r dydd y caiff ei ryddhau, yn ddangosyddion defnyddiol ar gyfer y math o bryfetach sy'n peillio'r planhigion.
  • Rhywogaethau cynrychioliadol o bob rhan o'r byd, gan ddangos amrywiaeth daearyddol.  Ceir rhai o Indo-Tsiena a Taiwan, Japan, Awstralia, Madagascar, Indonesia, Canolbarth, De a Gogledd America, Ewrop ac Ynysoedd Prydain a thir mawr Affrica.
  • Rhywogaethau a hybridau o ddiddordeb hanesyddol, megis tegeirian Darwin o Fadagascar, Angraecum sesquipedale.
  • Defnyddir hybridau, megis Cymbidium a Phalaenopsis, at ddibenion arddangos ac addysgu. Mae'r blodau mawr sy'n para'n hir yn ddelfrydol ar gyfer dosbarthiadau anatomeg blodau, ac arddangosiadau o'r dull peillio unigryw.

Y TÅ· Planhigion Cigysol

Mae planhigion cigysol yn ffynnu mewn ystod eang o gynefinoedd a hinsoddau, fel arfer mewn amgylcheddau sy'n brin o faetholion lle nad yw llawer o blanhigion eraill yn gallu cystadlu. Er mwyn goroesi, maent wedi datblygu ffyrdd dyfeisgar o gipio a threulio ysglyfaethau, gan ychwanegu at y maetholion na allant eu hamsugno o'r pridd. Mae rhai'n defnyddio mwcws gludiog neu lud olewog megis papur dal pryfed, tra bod gan eraill drapiau maglu llithrig neu fecanweithiau cau â snap megis y Fagl Gwener eiconig sy'n dal pryfed diarwybod yn cerdded ar draws eu dail sydd wedi'u haddasu.

Mae eu diet yr un mor amrywiol. Mae chwysigenddail bach (Utricularia) yn bwydo ar greaduriaid dyfrol microsgopig a nematodau, tra bod tafod y gors (Pinguicula) yn dal pryfed ffrwythau a hyd yn oed paill sydd yn yr awyr. Mae planhigion piserlys, megis Sarracenia a Darlingtonia, yn denu ac yn treulio pryfed mwy, megis pryfed a gwenyn meirch. Gall y rhywogaeth drofannol Nepenthes dyfu i feintiau trawiadol ac maent hyd yn oed i’w canfod gyda gweddillion adar bach, madfallod a chnofilod ynddynt.

Rydym yn tyfu dros 100 o rywogaethau a mathau o'r planhigion diddorol hyn yng Ngardd Fotaneg Treborth. Fe welwch amrywiaethau trofannol yn y Tai Tegeiriau a Throfannol, tra bod rhywogaethau tymherus, gan gynnwys rhywogaethau sy'n gynhenid i'r Deyrnas Unedig, yn cael eu harddangos yn y TÅ· Cigysol pwrpasol.

Y TÅ· Gwydr Claear

Roedd y TÅ· Gwydr Claear ar un adeg yn dÅ· gwydr ar gyfer cacti, planhigion suddlon, ac yn ddiweddarach planhigion tymherus-oer, ond mae bellach wedi'i adnewyddu'n hyfryd. Mae bellach yn arddangos casgliad trawiadol o gymnosbermau mawr, rhedyn a rhywogaethau egsotig eraill a dyfir mewn cynwysyddion. Wedi'i gynllunio fel lle amlbwrpas, mae'r ystafell wydr hefyd yn cynnal gweithdai, gwerthiannau planhigion, darlithoedd a chyfarfodydd.

Archebu’r Tŷ Gwydr Claear