Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2019
Gwerthiant a defnydd o Brydlesau yng Nghymru
Er mwyn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar brydles yng Nghymru, mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl sydd â phrydles preswyl hir, fel rhan o'u perchentyaeth neu forgais, i gwblhau holiadur ar-lein ynglŷn â’u profiadau a'u dealltwriaeth o brydlesi.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019
Baner y Brifysgol
Codwyd baner y Brifysgol er cof am Robert Morris Owen, Cymrawd Anrhydeddus y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2019
Accessing health care is challenging for Deaf people – but the best solution isn’t ‘one-size-fits-all’
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christopher Shank, Darlithydd mewn Ieithyddiaeth a Anouschka Foltz, Prifysgol Graz sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2019
Did human hunting activities alone drive great auks’ extinction?
Datganiad i'r Wasg gan eLife. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Scientists complete largest global assessment of ocean warming impacts
Datganiad i'r wasg gan y Scottish Association for Marine Science. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Astudio/Gweithio Dramor yn 2020/21
Os hoffech chi ymgeisio i fynd dramor yn y flwyddyn academaidd 2020/21, hoffir eich atgoffa mai’r dyddiad cau yw 10 Rhagfyr 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Cynllun trydan dŵr bach yn amddiffyn y Beibl Cymraeg hynaf
Bydd Beibl Cymraeg 431 oed yn cadw’n gynnes dros y gaeaf ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol osod tyrbin trydan dŵr bychan yn NhÅ· Mawr Wybrnant yn Eryri, gan helpu i reoli lefelau lleithder yn y ffermdy o’r 16egganrif. Trwy gydweithio â Phrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Choleg y Drindod, Dulyn, mae’r cynllun ynni adnewyddadwy yn helpu’r elusen i sicrhau bod un o’r llyfrau pwysicaf i ddiwylliant Cymru’n cael ei amddiffyn mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019
60 minutes a'r project sy'n ymwneud ag ymyraethau a ddatblygwyd ar y cyd gan Seicoleg ºÚÁϲ»´òìÈ
Yn ddiweddar, darlledodd rhaglen newyddion adnabyddus 60 Minutes eitem sy'n tynnu sylw at broject Ahlan Simsim IRC a Gweithdy Sesame, y fenter ddyngarol fwyaf erioed sy'n ymwneud â datblygiad plentyndod cynnar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019
Cefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr
Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi dewis Diwrnod cenedlaethol Hawliau Gofalwyr (21 Tachwedd) i lansio’r unig Bolisi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru a thrwy hynn bwysleisio eu cefnogaeth i fyfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr. Bydd gofalwyr ifanc ac eraill yn siarad am eu profiadau, a’r cymorth sydd ar gael iddynt, mewn digwyddiad ar hawliau gofalwyr yn y brifysgol. Cynhelir hwn mewn partneriaeth ag Action for Children, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Chyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Un llaw a dau hemisffer: Sut mae dwy ochr yr ymennydd yn ymaddasu ar ôl colli rhan o'r corff
Mae seicolegwyr wedi dangos, am y tro cyntaf erioed , sut mae plastigrwydd a gallu'r ymennydd i addasu, yn ymestyn dros ddwy ochr yr ymennydd. Mae'n hysbys ers tro os collir rhan o'r corff neu ryw swyddogaeth o'r corff, y gall rhan gyfagos o'r ymennydd, sy'n rheoli swyddogaeth arall, ymestyn i'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am y swyddogaeth goll a dod yn gyfrifol dros ei reoli. Bellach mae sganiau MRI swyddogaethol wedi dangos mewn pobl sydd wedi colli llaw, bod y swyddogaethau sy'n rheoli'r llaw arall yn ymestyn dros ddau hemisffer yr ymennydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn helpu diogelu adneuwyr a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn Nigeria ac ar draws Affrica
Y Nigerian Deposit Insurance Corporation yn ymweld â Phrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Ail-broffesiynoli Bancio a Chyllid yn Trinidad a Tobago
Ym mis Tachwedd bu Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn ymweld â Trinidad a Tobago i ddatblygu perthynas newydd ar gyfer darparu addysg ôl-radd Bancio a Chyllid, trwy'r rhaglen MBA Banciwr Siartredig.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Darlithydd Nyrs Anableddau Dysgu yn ennill Gwobr RCN Cymru 2019
Enillodd Dr Ruth Williams, darlithydd Nyrsio Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ Wobr Addysg Nyrsio RCN Cymru 2019. Mae'r wobr yn cydnabod dwy elfen o waith Ruth yn benodol; ei harweinyddiaeth a'i hymrwymiad i addysg, a'i ffocws ar bobl ag anableddau dysgu a'r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019
Pontio yn agor drysau i bobl ifanc leol trwy grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae project arloesol sy'n rhoi rhywbeth i bobl ifanc leol yn eu harddegau ei wneud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol ym Mhontio , canolfan gelfyddydau ac arloesi ºÚÁϲ»´òìÈ, wedi derbyn tair blynedd o gyllid gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o'i Chronfa Gymunedol. Gan weithio mewn ffordd ddeinamig sy’n ymateb i anghenion, mae'r project, o'r enw 'Yn y Foment' yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dod i mewn i adeilad Pontio gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o'u dewis, gan gynnwys cerddoriaeth ac ysgrifennu, dawns, sgiliau syrcas a chyfleoedd i weithio gyda'r nifer fawr o berfformwyr proffesiynol ac ymarferwyr lleol sy'n ymweld â Pontio.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019
Gleiderau tanddwr yn helpu gwella rhagolygon y tywydd
Bydd dulliau newydd o fesur y modd mae dyfroedd yn cymysgu o dan wyneb Cefnfor yr Iwerydd yn cael eu defnyddio i wella rhagolygon y tywydd. Mesurwyd tyrfedd y dŵr gan 'gleider' tanddwr a chyhoeddir canlyniadau'r ymchwil, dan arweiniad Natasha Lucas, ymchwilydd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, mewn erthygl cyfnodolyn .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2019
Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod
Mae grŵp o ymchwilwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwncïod.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019
Pecynnu ein bwydydd heb blastig
Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd. Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd. Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu
Mae'n bleser gan Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing. Ymunodd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ Ã¢ phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona. Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019
Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd
Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau. Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth. Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences . Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019
Innovate UK yn dyfarnu rhagoriaeth i Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cyfieithu Peirianyddol
Dyfarnwyd gradd A (Rhagoriaeth) i Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a Cymen Cyf am eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Cymen yn gwmni cyfieithu a leolir yng Nghaernarfon, ac mae’n un o brif gyflogwyr graddedigion yng Ngwynedd yn y sector breifat. Prif ffocws y KTP oedd datblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ddefnyddio archif fawr Cymen o ddogfennau wedi’u cyfieithu fel data hyfforddi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2019
Trafod y gyfres The Crown
Wrth i’r gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn ôl i’r chwe degau. Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977 yn cynnwys arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Ngahaernarfon. Digwyddiad a oedd wedi creu rhwyg mewn cymdeithas yn ô l Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019
Arddangosfa o hanes Iddewig ºÚÁϲ»´òìÈ yn mynd i Gaerdydd
Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd. Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor , yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019
Helpu Huw â Her y Copaon
Mae sawl aelod o staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Dr Ross Roberts, Dr Stuart Beattie, Dr James Hardy, Dr Eleri Jones, Dr Anthony Blanchfield, Dr Andy Cooke a Kevin Williams) wedi bod yn cynorthwyo anturiaethwr lleol i gyflawni her eithriadol ar hyd copaon Eryri.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019