Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2013
Entrepreneuriaid Santander ym Mangor
Enillwyd cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ gan fyfyriwr isradd o Flaenau Ffestiniog, Catrin Hicks, a thîm o fyfyrwyr ôl-radd. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Hyfforddi'r meddwl drwy fyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar yn meithrin lles gydol oes
Gall ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, fod yn ddefnyddiol i bobl ar wahanol gyfnodau o'u bywydau. Wedi'i addasu fel Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gall gynorthwyo pobl sy'n ymdopi ag amrywiaeth o anawsterau.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Cynhadledd bwysig ynghylch Cynaliadwyedd Môr Iwerddon
Mae cynhadledd bwysig wedi’i chynnal ynghylch rheoli pysgodfeydd ym Môr Iwerddon. Daeth arbenigwyr ac academyddion o Gymru, Iwerddon ac Ewrop ynghyd ar ei chyfer.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Cymdeithas Gomedi ºÚÁϲ»´òìÈ yn Cefnogi Seann Walsh
Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Gomedi ym Mangor yn perfformio sioe gomedi byw gyda’r digrifwr enwog Seann Walsh, mewn cydweithrediad â Pontio ar y 6ed o Fai 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Sesiynau mentora gyda Ysgol Uwchradd Caergybi
Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr ºÚÁϲ»´òìÈ roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Grantiau Hyfforddiant Athrawon o hyd at £15,000 ar gael i fyfyrwyr Tystystrif Addysg i Raddedigon (TAR) Uwchradd
Gall graddedigion sy’n cofrestru ar y rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Uwchradd) bod yn gymwys am grant hyfforddiant o hyd at £15,000.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Mae myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin.
Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol. Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Tîm ºÚÁϲ»´òìÈ yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith ºÚÁϲ»´òìÈ wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gofalu am Rieni Maeth fel y gallant ofalu am y plant yn well
Mae cymysgfa o fwynhad a straen wrth fagu plant, ond wrth i wledydd Prydain wynebu argyfwng o ran nifer rhieni maeth sydd ar gael, mae un brifysgol yn canfod ffyrdd i wella lles personol a lleihau lefelau straen rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gwnaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ddwyn bri ar enw ºÚÁϲ»´òìÈ yn Noson Wobrwyo Flynyddol UCM Cymru.
Nid yn unig gwnaeth Undeb Myfyrwyr ºÚÁϲ»´òìÈ ennill categorïau Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn ac Aelod Staff y Flwyddyn yn Noson Wobrwyo flynyddol UCM Cymru eleni ond cawsant gymeradwyaeth uchel hefyd yng nghategori Undeb y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gala Myfyrwyr Rhyngwladol
Cynhaliodd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ei Gala Ryngwladol flynyddol yn ddiweddar. Mae'r digwyddiad hwn wedi dod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y myfyrwyr rhyngwladol. Roedd y Gala eleni yn cynnwys rhaglen lawn o berfformiadau lliwgar a bywiog gan y myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2013
Dosbarth Meistr yn dod ag arbenigedd ynghyd i helpu Menter Gymdeithasol Leol
Mae wedi bod yn bleser mawr i'r tîm Byddwch Fentrus gynnig cyfres o 'Ddosbarthiadau Meistr' ar Ddechrau Busnes a Sgiliau Ymgynghori i fyfyrwyr a graddedigion ºÚÁϲ»´òìÈ. Arweiniwyd y rhain gan Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor a Hyfforddwr Dechrau Busnes i'r Rhaglen Cefnogi Menter, a gyllidir gan HEFCW. Yn ystod y rhaglen bum wythnos yn Chwefror a Mawrth mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi wedi bod yn gweithio ar broject mewn timau bychain i ddatblygu sgiliau ymgynghorol ac ystod lawn o offer a sgiliau dechrau busnes, yn cynnwys e-fasnach a datblygu gwefannau ar gyfer cleientiaid go iawn. Mae’r pwyslais ar ddysgu trwy brofiad wrth gyflawni tasgau ac mae'n cynnwys senario go iawn a ddarperir drwy'r client - Greenhouse Cyf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2013
Seren teledu yn dychwelyd i ddarlithio yn ei hen ystafell ddosbarth
Dr Trevor Dines yw'r botanegydd selog sy'n ennyn brwdfrydedd y genedl am blanhigion gwyllt yn y gyfres newydd boblogaidd ar Sianel 4 'Wild Things'. Heddiw mae'n dod yn ol i'r brifysgol lle bu'n astudio i siarad â chenhedlaeth newydd o fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013
Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal newidiadau genetig di-droi’n-ôl mewn stociau pysgod
Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i’r byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy’n dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon. Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod newid yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013
Cofio un o'r cewri – R.S. Thomas
A hithau'r mis hwn yn ganmlwyddiant geni R.S. Thomas, bydd gwaith y bardd cenedlaetholgar a'r cymeriad dadleuol yn cael sylw ar raglen Pethe nos Lun, 25 Mawrth ar S4C. Bydd cyfle hefyd i weld cyfweliad hir olaf R.S. ar y teledu wrth i S4C ddangos rhaglen deyrnged o'r archif R.S. Thomas, y noson ganlynol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS
Bydd gan fyfyriwr o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ddiddordeb arbennig yn noson wobrwyo’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir ar 19 Fawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Myfyrwyr o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn edrych ymlaen at lansio eu App cyntaf
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn brysur yn paratoi i lansio eu app atgoffa tymor hir ar gyfer teclynnau symudol. Mae Kalaivani, 32, a'i gŵr Karthikesan, y ddau o Singapore, yn israddedigion yn Ysgol Busnes ºÚÁϲ»´òìÈ a'r Coleg Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Ers pedwar mis bellach maent wedi bod yn datblygu eu app eu hunain, Key It In, ac maent yn awr yn paratoi at y lansio ar 15 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Fe fydd Ombwdsman Caffael Canada ymysg y Siaradwyr o 16 o wahanol wledydd sy’n mynychu Cynhadledd Gaffael enfawr Ysgol y Gyfraith.
Rhwng 18-22 Mawrth, bydd Ysgol y Gyfraith ºÚÁϲ»´òìÈ yn croesawu dros 250 o fusnesau a chyrff cyhoeddus pan fydd nifer o arbenigwyr rhyngwladol ym maes caffael yn ymgynnull yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith ºÚÁϲ»´òìÈ.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ i arwain project £1.2 miliwn ar Ddementia a'r Celfyddydau Gweledol
Bydd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn arwain un o nifer o brojectau a fydd yn gweld ymchwilwyr y brifysgol, grwpiau cymunedol ac elusennau ac ymddiriedolaethau cenedlaethol yn cydweithio i ymchwilio i iechyd a lles cymunedau, ymwneud â’r gymuned a’i chael i weithredu. Mae’r Brifysgol wedi derbyn Grant Mawr yn y thema Diwylliannau, Iechyd a Lles, un o bum thema'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig sy'n rhannu cyllid o fwy na £7 miliwn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013
Seremoni Wobrwyo Gyntaf am Ragoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r cadarnhad diweddar gan y Gweinidog Jane Hutt AC, fod gwerth contractau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a enillwyd gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu ers ychydig flynyddoedd, o 37% i 51%, yn gefndir gwych i’r seremoni wobrwyo gyntaf erioed, sydd i’w chynnal yn Llandudno y mis nesaf, am Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013
Ymchwil yn chwilio am ofalwyr 'anweledig'
Credir bod dros 70,000 o bobl gydag anabledd dysgu yn byw yng Nghymru heddiw ond nid yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am fyw nag oddeutu 12,000 ohonynt. Felly mae hyn yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl gydag anabledd dysgu yn byw gyda gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013
Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi £300,000 i wella gofal canser y Brostad yng Ngogledd Cymru
Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi bron i £300,000 i ariannu prosiect a fydd yn helpu cleifion canser y Brostad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gael eu gofal yn nes at eu cartref.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013
Tad a llys-ferch yn ennill gwobrau yn ŵyl ffilmiau Cymru.
Enillodd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, myfyriwr ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ a cyn disgybl yn Ysgol Friars, wobr ffuglen orau a'r ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru, gyda’i lysferch hefyd yn ennill y wobr Actores Orau. Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Adnabod rôl yr amgylchedd wrth i'r gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau ledaenu drwy'r byd
Mae gwrthsefyll gwrthfiotigau wedi cael ei adnabod yn y blynyddoedd diwethaf fel problem fawr ym maes gofal iechyd. Daw papur yn The Lancet Infectious Diseases (doi:10.1016/S1473-3099(12)70317-1), sy'n adolygu'r broblem ar raddfa fyd-eang, i'r casgliad nad oes digon o sylw yn cael ei roi i'r rôl bwysig y mae'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae mewn cylchredeg gwrthfiotigau ac o ganlyniad bod bacteria yn datblygu'r gallu i'w gwrthsefyll.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Athro o SENRGy yn ennill gwobr bwysig gan Academi Gwyddorau China!
Yn Ionawr 2013 fe wnaeth yr Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ennill gwobr bwysig 'Cadair Ymweld i Uwch Wyddonwyr Rhyngwladol' gan Academi Gwyddorau China .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr yn dychwelyd i Ogledd Cymru.
Bydd Clwb Octopush Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr ym mhwll Llandudno ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10am a 7pm. Mae Octopush, sydd hefyd yn cael ei alw’n hoci tanddwr, yn cael ei chwarae gan 6 chwaraewr a 4 eilydd i bob tîm, gyda phob un yn gwisgo snorcel, mwgwd ac esgyll ac yn cystadlu am gnap plwm, neu sgwid, ar waelod y pwll gan ddefnyddio ffyn bychain. Cafodd y gamp ei dyfeisio yn y DU ym 1954, ac ers hynny mae’r gêm wedi cael ei mabwysiadu’n rhyngwladol ac wedi arwain at fersiynau eraill ohoni, gan gynnwys fersiwn dan rew sydd yn cael ei chwarae ben i waered gyda chnap sydd yn arnofio yn erbyn yr ia.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013
ºÚÁϲ»´òìÈ’s Students Union nominated for seven Awards
Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi’r rhestr hir o dros 80 o enwebiadau i lawr i’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni. Mae’r Undeb ei hun ym Mangor ar restr fer ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn’ a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau’n Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi’i henwebu am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi’i enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o Ysgol Gemeg y Brifysgol a Marta Napodano, sy’n cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn Ysgol y Saesneg . Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013
Scholarship student and local bookshop join forces to promote literature.
Ydych chi erioed wedi teimlo nad ydych chi'n gwybod llawer am lenyddiaeth o Gymru? Ydych chi ffansi ymuno â grŵp llyfrau? Wel, dyma'r cyfle euraidd i chi! Mae myfyriwr ôl-radd o Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, Alex Ross, a'r gwerthwr llyfrau annibynnol lleol, Eirian James, wedi ymuno i ddechrau grŵp llyfrau ym Mangor a fydd yn canolbwyntio ar ddarllen a thrafod llenyddiaeth o Gymru yn Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2013
Myfyrwyr Seicoleg ºÚÁϲ»´òìÈ yn ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau yng Nghaerdydd
Teithiodd dau dîm o fyfyrwyr Meistr Seicoleg Defnyddwyr i Gaerdydd yn ddiweddar i gystadlu yng nghystadleuaeth "Brolio" Sefydliad Marchnata Siartredig. Y timau oedd: "The Three Marketeers" (Jamie Muir, Will Morgan, Manuel Calatrava Conesa) a "The National Thrust" (James Gudgeon, James Gillespie, Bryan Walls).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013
Her Ddiwylliannol 2013
Yn ddiweddar, cynhaliwyd Her Ddiwylliannol flynyddol Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ac roedd yn llawn amrywiaeth a chyffro fel arfer. Roedd yr achlysur, a drefnwyd gan y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, mewn partneriaeth â'r CSSA (Cymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd), yn rhoi pwys ar amrywiaeth ddiwylliannol a gweithio mewn tîm.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2013
Myfyriwr o Fangor ar y brig ar gyfer gwobr Wythnos yr Hinsawdd
Mae Andy O’Callaghan, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddorau Morol/ Sŵoleg ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2013
Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad yn cefnogi 15 o Ysgoloriaethau MSc (dysgu o bell) mewn Coedwigaeth Drofannol
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn hynod falch o gyhoeddi bod Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad (CSC) wedi cytuno i dalu am hyd at 15 o leoedd i ysgolorion o wledydd sy'n datblygu yn y Gymanwlad i astudio’r cwrs MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) a sefydlwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2013